Y Pwyllgor Busnes

 

Lleoliad:

Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Ty Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2011

 

Amser:

08:30 - 08:45

 

 

 

Cofnodion: 

 

 

 

Aelodau’r Pwyllgor:

 

Rosemary Butler (Cadeirydd)

Peter Black

William Graham

Jane Hutt

Lindsay Whittle (yn lle Jocelyn Davies)

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Anna Daniel (Clerc)

 

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

David Melding, y Dirprwy Lywydd

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad

Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad

Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaethau’r Siambr a Deddfwriaeth

Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd

Peter Greening, Llywodraeth Cymru

Aled Elwyn Jones, Clerc Eweithdrefnau

 

 

 

 

<AI1>

1.  Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau

 

Roedd Lindsay Whittle yn dirprwyo ar ran Jocelyn Davies, a anfonodd ymddiheuriadau.

 

</AI1>

<AI2>

2.  Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

 

Nodwyd y cofnodion gan y Pwyllgor fel rhai a oedd yn barod i’w cyhoeddi.  

 

</AI2>

<AI3>

3.  Trefn Busnes

 

</AI3>

<AI4>

3(i)        Busnes yr wythnos hon

 

Cytunodd Arweinydd y Tŷ y byddai’r pleidleisio ddydd Mawrth ar y gyllideb ddrafft ac ar y ddadl ar wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy yn digwydd ar ddiwedd y dadleuon hynny, yn amodol ar gadarnhad.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio cyn y ddadl fer ddydd Mercher.

 

</AI4>

<AI5>

3(ii)       Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Nododd y Pwyllgor amserlen tair wythnos o fusnes y Llywodraeth.

 

 

</AI5>

<AI6>

3(iii)      Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad.

 

</AI6>

<AI7>

4.  Deddfwriaeth

 

</AI7>

<AI8>

4(i)        Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol: y Bil Diogelu Rhyddidau

 

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried papur gan y Llywodraeth ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol mewn perthynas â’r Bil Diogelu Rhyddidau. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r Memorandwm i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fel y gall graffu arno cyn iddo fod yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn; y dyddiad terfyn ar gyfer cyflwyno adroddiad yw 24 Ionawr 2012.

 

</AI8>

<AI9>

5.  Busnes arall

 

</AI9>

<AI10>

5(i)        Gweithredu diwydiannol - yr effaith ar fusnes ffurfiol y Cynulliad

 

Bu’r Pwyllgor Busnes yn ystyried opsiynau wrth-gefn i sicrhau nad oes unrhyw ran o’r busnes sydd wedi’i drefnu gan y Cynulliad yn cael ei golli os oes gweithredu diwydiannol ar 30 Tachwedd.  

 

Cytunodd y Llywodraeth i ddod â’r cwestiynau llafar a ganlyn yn nes. Byddant, felly, yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 29 Tachwedd:

 

·         Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy (45 munud)

·         Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth (45 munud)

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes mai’r opsiwn a oedd well ganddynt oedd ymestyn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 6 Rhagfyr a dydd Mercher 7 Rhagfyr fel bod amser i ymdrin â’r eitemau sy’n weddill o fusnes y Cynulliad a oedd i’w gynnal ar 30 Tachwedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried y cynllun wrth-gefn ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.

 

</AI10>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>